Monday, May 14, 2007

G'day Tasmania





Ma'r BMT Travel World Tour back on the road!

Tasmania - wel sai'n credu bo ni erioed wedi bod i rywle mor fawr gyda cyn lleied o bobl o gwmpas. Dreifo am fillltiroedd heb weld unrhyw geir - dim ond lot fawr o roadkill.

Ar ol treulio diwrnod yn Hobart, cal car a dreifo i Port Arthur (hen garchar i'r convicts) a mynd ar ghost tour rownd yr adfeilion. Eurig not impressed yn cal ei fforso i fynd ar hwnnw cyn y noson ond o'dd clywed y straeon o'r holl ysbrydion yn ddiddorol er odd dim son o'r ysbrydion yn ystod ein trip ni!

Mlan i Abertawe wedyn - Swansea i fod yn gywir. Aros mewn bythynod cerrig fyna - teimlo fel bod ar ynys mon gyda'r to llechen fyd! Aros yng nghanol y wlad heb unrhyw internet, ffon na hyd yn oed siope! Relaxing iawn.

Draw i Wineglass Bay - rili bert fan hyn - traethau gwag eto. Aros yn Laucenston a wedyn i Cradle Mountain. Llynnoedd a mynyddoedd Cradle Mountain yn atgoffa ni o NZ a Cymru fach unwaith eto. Cwrdda ffrinide newydd yn y gwyllt - y wombats! Cal cyfle i roi cwtsh fach i fabi bach fyd mewn un o'r parcie. Bron mor ciwt a turtles Borneo!

Ar ol yr holl ddreifo - tua 1500kms - ni nawr yn hollol ffed yp gyda'r ipod! Dim ond hen ganeuon Diffiniad o'dd yn cadw ni fynd yn y car.

Wedi cyrraedd Melbourne erbyn nawr a'n symud mlan mewn chydig ddyddie eto. Sioc i'r system aros mewn hostel ar ol boutique hotels BMT Travel yn Tasmania!

Pawb yn iawn adre?

Uluru nesa wedyn Kakadu i weld Crocodile Dundee...

B + E

No comments: