Tuesday, May 29, 2007

20fed Fai - Uluru a'r outback!




Teimlo fel bo fi'n sgwennu am drip nethon ni fisoedd yn ol achos bo ni wedi neud cyment ers cyrraedd Ayres Rock am y tro cynta.

Ar ol teulio 4 diwrnod yn Melbounre, gweld y Penguins yn Philip Island a gorfod fforco mas i brynu camcorder newydd (gutted) nethon ni hedfan i Ayres Rock - Uluru. Gweld yr haul yn machlud ac yn newid lliwie'r garreg anferth, deffro'n gynnar i weld yr haul yn codi a cerdded milltiroedd o gwmpas 'the rock'. Eurig yn colli amynedd gyda'r holl flies - ro'dd rhaid i'r ddau o ni brynu net gwyrdd i gadw'r pryfed o'n gwynebe ni - horibl! Edrych yn attractive iawn yn y llunie achos hyn!!

Kata Tjuta - yr Olgas - yr un mor impressive a wac Valley of the Winds yn lladdfa yn y gwres. Cal esboniad o'r ser amazing y noson ny - gweld y milky way a galaxies arall yn glir a cal cyfle i weld rings saturn drwr telescop. Heb weld y ser mor glir a hyn unlle arall yn y byd.

Cal diwrnod prysur yn Kings Canyon a wedyn mlan i Alice Springs. Nai weud cyment a hyn - sen i ddim yn lico byw na! Y gair 'twll' yn dod i'r meddwl - ond na fe - cal blas o'r outback!

No comments: