Monday, May 14, 2007

Gadael Sydney



Ar ol byw a gweithio yn Sydney am y 6mis diwetha dyma amser i ni weud ta ta i'r ddinas am y tro. Nethon ni adel ar ol cal tipyn o job yn glanhau'r fflat a pacio popeth i ddau fag!

Splasho mas am ein wthnos ola ni - a cal seaplane ar draws yr harbwr. Fuon ni yn lwcus da'r tywydd achos gethon ni wthnos twym a heulog fyd (er bod hi'n hydref/gaeaf fan hyn! nuts bod hydref nhw yn gallu bod yn 26degrees!)

Gethon ni 'brenwef' fyd i neud cwrs scuba diving PADI a neud yr holl theory a'r dysgu yn Manly ac yn Shelley Beach fel bo ni'n gallu gorffen y cwrs lan yn y Great Barrier Reef pan fyddwn ni'n mynd na diwedd y mis. (sypreis gathn Bran 100% yn y test - teimlo fel bod nol yn ysgol braidd - ond wedi meddwl ges i 96% so odd e'n methu bod mor anodd a 'ny!) So, bu ni'n qualified Scuba Divers ymhen mis! Debyg i'r hen Jacque Cousteau.....

O ie - lle cool am ddrincs yn Sydney yw'r Summit a'r Orbit bar. Ethon ni am cocktails am noson ola ni yn y revolving bar yn edrych mas ar y ddinas - very sex and the city yn ol Eurs!

Hwyl fawr Sydney (am y tro)!

E+B

No comments: