Tuesday, June 26, 2007

26ain o Fehefin - Queenstown a Wanaka, Seland Newydd




Iesu mowr ma fe'n oer 'ma!

Ar ol tua 8-9 mis o haul ni nawr yng nghanol yr eira ma rhaid gweud bod e'n dipyn o sioc i'r system. Ni wedi mynd yn soft ers mynd off ar ein travels...

Heb neud lot ers cyrraedd Queenstown - wedi bod yn snowed in gyda'r holl eira a rhew - ond ni wedi bod yn sgio yn Coronet Peak a ddoe yn Treble Cone yn Wanaka. Ni bach yn gynnar am y tymor sgio gan taw dim ond ambell i run sydd ar agor ond peth da am hyn yw taw bach iawn o bobl sydd ar y slopes a'r liffts.

Ni bellach yn fans mawr o Sky movies ar ol teimlo fel sloths yn watcho films trwy'r dydd. Wedi dechre datblygu bach o cabin fever ar ol aros yn ein fflat am bron 3 diwrnod non-stop...

Diolch byth bod bars a cafes neis yn Queenstown yn gwerth mulled wine i gadw Bran yn hapus a dwym neu bydd hi wedi bod off 'ma!

Nesa ni'n symud lan i Auckland i weld Kelly cyn cal bach o haul (a gwres) unwaith eto yn y Cook Islands.

O ie - ni'n dechre dod yn gyfarwydd 'da Facebook. Seems all the rage adre.....

Wednesday, June 20, 2007

Ynys Lord Howe - 10 o Fehefin





Ar ol gweld llun o'r ynys yma mewn visitor centre yn Sydney nol ym mis Ionawr nath y ddau o ni neud addewid bod rhaid i ni weld e cyn gadael Awstralia - so dyna yn union beth natho ni!
Ar ol teithio am ddwy awr mewn properler airplane o maes awyr Sydney dyma ni yn lando ar Ynys Lord Howe - ynys yng nghanol unman gyda tua 300 o bobl yn byw arno.

Fel chi'n gallu dychmygu odd pawb yn nabod pawb ar yr ynys gan bod cyn lleied o nhw ac erbyn diwedd ein 5 diwrnod ar yr ynys odd e'n teimlo fel bo ni ar first name terms gyda'r mwyafrif o'r locals.
Wel - am le pert!Odd braidd unrhyw geir ar yr ynys gan bod e mor fach so odd pawb yn teithio naill ar y beic neu ar droed!
O ni'n dechmygu gweld David Attenborough yn neud un o'i raglenni natur bob tro o ni'n mynd mas am dro. Atho ni am snorkel yn y lagoon o amgylch yr ynys a gweld rhagor o sharks, turtles a stingrays - er odd y dwr tipyn yn oerach na'r Barrier reef yn Cairns. Nath gwefuse Brans troi'n las ar ol ei swim cynta (ac odd da ni 4 in total!)

Natho ni hefyd mynd ar 8 hour hike i ddringo mynydd uchaf yr ynys - Mount Gower. Tua copa'r mynydd odd miloedd o adar unigryw i'r ynys o'r enw 'Providence Petrals' yn hedfan o amgylch ein pennau. Bydde adar 'ma yn llythrennol 'cwmpo' mas o'r awyr i lanio ger ein traed er mwyn 'checko' ni mas pan odd guide ni yn neud swn! V. wierd!

Odd bod ar Ynys Lord Howe fel bod ar set 'Lost' - bendant un o uchafbwyntiau Awstralia heb os a ffordd neis i ddweud hwyl fawr i Oz.
Ond dyna fe onwards and upwards fel ma nhw'n gweud ac ymlaen nesa i Queenstown, NZ, am newid mewn tymheredd a bach o sgio...

Saturday, June 16, 2007

28ain Mai - Great Barrier Reef a'r Whitsundays








Reit re-cap o'n anturiaethau diweddara.....

Natho ni hedfan lan i Cairns ar ol gweld gem prawf cynta Cymru e Awstralia a hiro car yn syth o'r maes awyr er mwyn teithio lan i Palm Cove ac i Port Douglas.

Wedyn nol i Cairns ac off ar drip Divo 2 noson i'r Barrier Reef i orffen ein cwrs PADI. Y tywydd yn bell o fod yn picture postcard a'r ddau o ni yn sal ar y trip mas i'r reef! Ond ar ol gorffen ein cwrs ar y ddau dive cynta, off ben ein hunain lawr i Flynn Reef a Gordons. Gweld sawl turlte (tybed os o nhw'n perthyn i'r rhai welo ni yn Borneo?), stingrays, llwyth o bysgod, coral impressive a lot o reef sharks! Ie sharks - rhai gyda lot o ddannedd siarp

Cyn neud ein Night dive gyda dim ond torch am ole odd lwyth o sharks yn nofio o amgylch cefn y cwch yn aros i ni dod mewn i'r mor!! Scary stuff - fel rhywbeth yh syth mas o Jaws neu Open Water! Ta beth ni dal ma ar dir byw so all's well.....

Dreifo lawr i Airlie Beach wedyn via Mission beach yn y glaw. Dal cwch y Waltzing Matilda wedyn am dri diwrnod o hwylio rownd ynysoedd y Whitsundays. Dim lwc da'r tywydd eto (cwmwl yn dilyn Brans!) yn anffodus y diwrnod cynta a ninne yn teimlo fel bo ni yn hwylio arfordir Cymru yn y gwynt a'r glaw yn hytrach na haul y whitsudnays! Oleia ma Eurig wedi mynd off y syniad o brynu cwch hwylio nawr ar ol dod nol! Whitehaven beach yn rili neis, a'r views o'r ynysoedd yn lyfli. Yn ystod trip kayako o amgylch yr ynysoedd dath yr haul mas i wennu arno ni a natho ni hefyd weld mwy o turtles a Duogong.

Gweld o'r newyddion bod Newcastle a Sydney wedi cal floods ofnadw a bod y coast yn 'natural disaster' zone mewn rhai ardaloedd so lwcus bo ni ddim di bod yn sydney. Pwy wedodd bod Awstralia ddim yn cal lot o law??!!