Tuesday, May 29, 2007

25ain o Fai - Darwin a Kakadu






Gwlad Crocodile Dundee - a gredwch chi ddim ond welon ni ddim un blydi croc!

Ath boutique accomodation BMT Travel mas o'r ffenest a off a ni ar 3 day camping 4WD trip i ganol parc cenedlaethol Kakadu (dyma le gath Crocodile Dundee ei ffilmo by the way!)

Ar ol noson yn Darwin a gweld yr haul yn machlud yn y Sailing Club ( lle da a rhad os chi byth yn mynd na) off a ni am 6 y bore gyda Jamie y guide yn y 4WD. 8 dyn arall o Ewrop yn y fan - drewdod ofnadw erbyn y 3ydd dydd. 2 fachgen ifanc o'r Almaen yn caru music techno, un boi hoyw canol oed o'r swistir, un dyn a real problem BO o'r Eidal (nath e ddim newid ei ddillad unwaith mewn 3 diwrnod llawn! Ych.) a dau winemaker run oed a ni o Sbaen o'dd yn real cymeriade. A wrth gwrs Pat - wel ma storis da ni am Pat - ond nai weud fel hyn - os chi byth wedi gweld y comedy Nighty Night - chi'n gwbod y boi gyda gwallt gwyllt a syn neud jibs od gyda'i geg - wel o'dd Pat yr un sbit! Boi od y diawl.

Ta beth - Kakadu yn real profiad o'r gwyllt. Nofio mewn waterfalls, trio bush tucker, gweld turmite mounds, cerdded i weld golygfeydd gret, a trip ar yr afon a gweld llwyth o adar anferth. Mozzies yn bobman - so gath Eurig ei fyta yn fyw (er bod e yn y tent gyda fi ar ol jibo mas o cysgu yn y swag mas ben ei hunan). Nes i gownto 161 o bites ar ei gorff e!

O ie - yr esgus nath Eurig roi am beidio cysgu mas yn y swag (ond nath droi mas i fod yn wir) odd bod e wedi clywed crocodile yn y camp yn ganol nos. Yn ol y ranger bore wedyn nethon nhw glywed e fyd! 3 blynedd yn ol nath merch fynd nofio yn yr afon yn yr un camp a cael ei lladd gan crocodile. Scary.

Nol yn Darwin nethon ni fyta Crocodile yn y farchnad ar stondin 'Roadkill" le chi'n gallu blasu pob math o anifail. A wedyn draw am y dydd i Litchfield i nofio mewn mwy o waterfalls cyn hedfan nol i Sydney am y penwthnos i weld gem Cymru v Awstralia! Wthnos a hanner bois bach!

1 comment:

Anonymous said...

Shwdmae pobl? Long time etc!

Falch i weld bod y daith dal yn mynd yn dda a bod chi wedi dod mas o'r Outback yn fyw. Ar ol gwylio ffilm o'r enw Wolf Creek, on i yn dechre poeni braidd amdano chi.

Stag do Griff wythnos diwethaf. Good laugh!! (ffili gweud mwy fan hyn - you know what I mean Mans!!). Pawb wedi dod trwy y coaststeering mewn un darn - hyd yn oed brother Grim.

Anyway, cofia i rhoi gwbod beth sy nesa ar y yr itinery. pryd chi'n mynd i NZ??

Loz