Sunday, October 08, 2006

8fed o Hydref - Hanoi


O my god! (Elin Wyn style!)

Ni'n methu credu faint o bobl Hanoi sy berchen motorbeics. Dychmygwch stryd seis cowbridge road ond gyda motorbeics, cyclos, beics iawn, taxis, bysus, a ceir i gyd yn dod o bob cyfeiriad ac yn stopo i neb. Dim goleuadau, dim pelican crossings, jyst traffic o bob cornel. Heb gweithio allan eto os ma nhw'n nuts neu'n yrrwyr gret?!

Wedi cal trafferth am hanner awr bore ma i groesi y stryd ond credu erbyn nawr bod ni wedi gweithio mas y system - sef head down and go for it! Fel ma'r Luxe guide yn dweud - "pretend you're Moses and everyone will make way for you!"

Poeni braidd achos yn ol y guidebooks ma Ho Chi Minh(Saigon) fod oleia deg gwaith gwaeth o ran traffig!

Ta beth mynd am drip o amgylch Hanoi fory - yn anffodus ma ty Ho Chi Minh ar gau so ni methu mynd i weld yr hen foi yn ei fedd.

Llunie ar y ffordd!
E+B xxx

1 comment:

Anonymous said...

If you can't beat them join them. Brans allai weld ti yn reidio pillion tra fod Mans wrth lyw y motobeic! Nesh i ffeindio'ch tudalen luniau chi ar Flickr neithiwr trwy gyd-ddigwyddiad llwyr - edrych mlaen i weld y prawf bo chi ddim yn sgwennu hwn i gyd o rhyw fyncr yn Trimsaran!