Monday, October 30, 2006

31 o Hydref - Siem Reap, Cambodia


Unwaith eto yn aros am flight felly cymyd mantais o'r amser prin i sgwennu....

Fe fuon ni am ddeuddydd yn Phnom Penh - dinas tlawd iawn gyda lot o blant bach yn begian ar y strydoedd (ni'n siarad am blant tua 2 flwydd oed). O'dd e'n le trist iawn - yn enwedig y killing fields a'r carchar le o'dd y khmer rouge yn lladd miloedd o bobl.
Siem Reap yn le gwahanol ac yn llawn tourists. Gethon ni tuk tuk am ddau ddiwrnod llawn i weld temlau Angkor Wat- best 15dollars spent to date yn ol Eurig.....

Peth od am Cambodia - am wlad sy' mor dlawd - er engraifft ma braidd dim goleuadau ar y stryd yn Siem Reap - ond ma dal llwyth o Wi-Fi hotspots ar gael!? Sain credu bod yna hotspots broadband yn Dolgellau eto!

Ymlaen i Singapore heddi cyn hedfan i Borneo fory - di clywed bod typhoon ar y gorwel.....

Unrhyw news adre?

Eurig a Bran xxx

No comments: