Saturday, October 14, 2006

14eg o Hydref - Helo o Hue


Ar ol taith 13 awr mewn tren dros nos (sialens a hanner i BMT) ni bellach wedi cyrraedd Hue yng nghanolbarth Vietnam. Aros mewn boutique hotel - BMT Travel style i gal bach o R&R ar ol tridie yn kayako, beicio, cerdded a chwysu fel moch. Os chi'n bored - dyma'r linc i'r hotel
La Residence Hotel & Spa! Di cal bargen achos bod hi'n dymor y glaw ac yn dawel yma.

Halong Bay yw'r highlight wthnos yma. Yn anffodus ma Eurig a finne wedi anghofio y lead sy'n mynd da'r camera so tan bo ni'n ffeindio cyfrifiadur state of the art sy'n cymryd memory stick y camera - dos dim modd i ni ddangos y llunie i chi. Wps! Ond ni wir yn Vietnam a ddim mewn bunker yn Trimsaran heblaw wrth gwrs bod nhw wedi dechre gwerthu Snake wine a cig ci yn y Spar lleol!

Hyd yn oed ar ol bod yma am dros wythnos ni dal methu credu pa mor nuts yw'r traffig yn Vietnam.

Top 5 Traffic nightmares...

1. Hanoi (er efalle bydd hyn yn newid ar ol cyrraedd Saigon)
2. Taxi drivers Rio
3. Bangkok
4. Gyrru car yn Melbourne
5. Rush hour Port Talbot

Unrhyw awgrymiadau erill?

E+B xx

1 comment:

Anonymous said...

Mae traffic Mynyddygarreg yn uffernol hefyd.