Wednesday, October 25, 2006

26ain o Hydref - Dinas Wncwl Ho (Saigon!)


Yn Saigon yn wastio amser cyn mynd i'r maes awyr ac ymlaen i Cambodia, a newydd sylwi bo ni heb sgwennu ers wthnos. Ni wedi gweld cymaint ma gormod i ddweud a ma'n bosib fydd hwn yn troi yn draethawd estynedig......

Wedi mynd i'r Cu chi tunnels ddoe - jiw o'dd y Vietcong na yn blydi glyfar. O ni bron a paso mas yn cerdded yn y twnel (er bod e wedi ei ymestyn er mwyn bod Yanks tew yn gallu ffito mewn i nhw.)
Nes i (Eurig) gal go yn saethu AK 47 (boys and their toys) ond odd dim son am bazzoka'z a water buffalo's....
O'dd Eurig mewn daring mood ddoe - achos nath e hefyd drio Snake wine!

Nethon ni gal tridie cynt yn neud dim ar draethau Nha Trang a Mui Ne. Neis cal relaxo ar ol gweld yr holl temples.

Falch i weud bo ni wedi cyfarwyddo gyda'r traffig. Er bod dros 3 miliwn o motorbikes yma yn Saigon, ma fe lot yn haws erbyn hyn i groesi y stryd. Ma na rai goleuade traffig fan hyn diolch byth!

Newsflash mwya yr wythnos yma yw bod ni - o'r diwedd - wedi dathlu ein mis mel yn Hoi An......sort of.
Nath yr Hoi An Riverside Resort ofyn i ni neud starring role yn ffilm nhw am y gwesty! Classic!
Ro'dd rhaid i ni esgus bod yn 'Honeymoon couple' am y dydd tra bod boi bach yn ffilmo ni gyda camcorder. Ma nhw fod rhoi y llunie ar eu website nhw so newn ni anfon y link i chi pan gewn ni fe.....

Reit well mynd i ddal y plane....

Eurig a Bran xxx

No comments: