Wednesday, July 11, 2007

2ail o Orffennaf - North Island, Seland Newydd



Kelly, Nick & Higgins: As promised we've finally had a chance to update the blog. Thanks for a great time in Auckland - no skiing for us on Mount Whakapapa sadly. Not enough snow! We'll put some pics on after we find an internet cafe with the technology!


Mewn brawddeg dyma grynodeb o'n amser yn y North Island:

Glaw, glaw, glaw, cymylau du, glaw, bach o haul, mwy o gymylau, mwy o law!!

Ar ol yr eira o'r South Island natho ni dal awyren lan i Auckland i aros gyda Kelly, Nick ac Higgins (y ci) am y penwythnos. Nath Kelly a Nick chware teg edrych ar ol ni yn dda - atho ni am day trip mas i Kare Kare Beach (ble cafodd y film The Piano ei ffilmio) cyn mynd i weld North Harbour yn chware Thames o'r corporate box diolch i swydd newydd Kelly!

Ar ol gweud ta ta i Auckland natho ni gyrru lawr i Lake Taupo am gwpwl o ddyddie cyn symud i volcano o'r enw Mount Ruapehu - gyda'r gobaith o neud bach o mwy o sgio - ond y tro yma ar volcano nath ffrwydro mor ddiweddar a'r 90'au! Ond yn anffodus o ni bach yn gynnar am y tymor sgio yn y north island. Tro nesa efalle....

No comments: