Wednesday, July 11, 2007

11eg o Orffennaf - Cook Islands




Cerdded mas o'r awyren yn gwrando ar yr iwcaleli......a pawb yn cal necklace o flode. Yn debyg i'r hyn bydden i yn dechmygu am Hawaii ond yn amlwg yn rhywbeth cyffredin yn y Pacific.

Raratonga yw prif ynys y Cook islands a dyma le nethon ni dreulio ein 4 diwrnod cynta. Mor glas glas, dwr y mor yn 26 celsius a'r haul yn gwenu - gret!

Heblaw am orwedd ar y traeth a kayako rownd yr ynysoedd bach - fe fuon ni yn scuba divo eto. Wel na beth o'dd profiad. Ar ol y dive cynta fe nethon ni weld Humpback Whale yn y dwr - Amazing! So fe fuon ni yn nofio gyda'r whale, a hwnnw yn dod nol a nol fel se bod e ishe chware da ni yn y dwr. Un o'r profiade gore ni wedi cal ar y trip! Treuni o'dd dim camera gyda ni.

Hedfan wedyn i ynys Aitutaki ac i aros ar y Lagoon. Un o'r llefydd perta ni erioed wedi aros ma rhaid gweud. Traethau gwag, felly treulio diwrnod yn kayako i ynysoedd bach pert i ffeindio traeth bach i'n hunen. Gweld yr ynys le ma nhwn ffilmo Survivor hefyd.

Scuba divo eto yn Aitutaki a nofio drwy ogof a gweld drop off yn y dwr sy'n mynd lawr i 4000m! Gweld turtles mawr tro ma hefyd. Y dwr yn 27celsius ac yn glir glir!! Fel nofio yn y bath!

Bydd y pace of life yn newid ychydig nawr gan taw LA a Central America sydd nesa ar y BMT Travel World Tour...

No comments: