Tuesday, June 26, 2007

26ain o Fehefin - Queenstown a Wanaka, Seland Newydd




Iesu mowr ma fe'n oer 'ma!

Ar ol tua 8-9 mis o haul ni nawr yng nghanol yr eira ma rhaid gweud bod e'n dipyn o sioc i'r system. Ni wedi mynd yn soft ers mynd off ar ein travels...

Heb neud lot ers cyrraedd Queenstown - wedi bod yn snowed in gyda'r holl eira a rhew - ond ni wedi bod yn sgio yn Coronet Peak a ddoe yn Treble Cone yn Wanaka. Ni bach yn gynnar am y tymor sgio gan taw dim ond ambell i run sydd ar agor ond peth da am hyn yw taw bach iawn o bobl sydd ar y slopes a'r liffts.

Ni bellach yn fans mawr o Sky movies ar ol teimlo fel sloths yn watcho films trwy'r dydd. Wedi dechre datblygu bach o cabin fever ar ol aros yn ein fflat am bron 3 diwrnod non-stop...

Diolch byth bod bars a cafes neis yn Queenstown yn gwerth mulled wine i gadw Bran yn hapus a dwym neu bydd hi wedi bod off 'ma!

Nesa ni'n symud lan i Auckland i weld Kelly cyn cal bach o haul (a gwres) unwaith eto yn y Cook Islands.

O ie - ni'n dechre dod yn gyfarwydd 'da Facebook. Seems all the rage adre.....

No comments: