Wednesday, June 20, 2007

Ynys Lord Howe - 10 o Fehefin





Ar ol gweld llun o'r ynys yma mewn visitor centre yn Sydney nol ym mis Ionawr nath y ddau o ni neud addewid bod rhaid i ni weld e cyn gadael Awstralia - so dyna yn union beth natho ni!
Ar ol teithio am ddwy awr mewn properler airplane o maes awyr Sydney dyma ni yn lando ar Ynys Lord Howe - ynys yng nghanol unman gyda tua 300 o bobl yn byw arno.

Fel chi'n gallu dychmygu odd pawb yn nabod pawb ar yr ynys gan bod cyn lleied o nhw ac erbyn diwedd ein 5 diwrnod ar yr ynys odd e'n teimlo fel bo ni ar first name terms gyda'r mwyafrif o'r locals.
Wel - am le pert!Odd braidd unrhyw geir ar yr ynys gan bod e mor fach so odd pawb yn teithio naill ar y beic neu ar droed!
O ni'n dechmygu gweld David Attenborough yn neud un o'i raglenni natur bob tro o ni'n mynd mas am dro. Atho ni am snorkel yn y lagoon o amgylch yr ynys a gweld rhagor o sharks, turtles a stingrays - er odd y dwr tipyn yn oerach na'r Barrier reef yn Cairns. Nath gwefuse Brans troi'n las ar ol ei swim cynta (ac odd da ni 4 in total!)

Natho ni hefyd mynd ar 8 hour hike i ddringo mynydd uchaf yr ynys - Mount Gower. Tua copa'r mynydd odd miloedd o adar unigryw i'r ynys o'r enw 'Providence Petrals' yn hedfan o amgylch ein pennau. Bydde adar 'ma yn llythrennol 'cwmpo' mas o'r awyr i lanio ger ein traed er mwyn 'checko' ni mas pan odd guide ni yn neud swn! V. wierd!

Odd bod ar Ynys Lord Howe fel bod ar set 'Lost' - bendant un o uchafbwyntiau Awstralia heb os a ffordd neis i ddweud hwyl fawr i Oz.
Ond dyna fe onwards and upwards fel ma nhw'n gweud ac ymlaen nesa i Queenstown, NZ, am newid mewn tymheredd a bach o sgio...

No comments: