Friday, December 01, 2006

2ail o Ragfyr - Sydney



Methu credu bod deufis cyfan wedi mynd ers i ni adel Cymru! Ry'n ni bellach wedi ffeindio rhywle i fyw - fflat yn ardal Mosman yng ngogledd Sydney. Ardal tawel ond yn bert iawn. Ni rhyw 5 bloc o'r traeth, 15 munud o ganol y ddinas, a 15mun o Manly. Highlight yr wthnos oedd mynd i Palm Beach ddoe - dyma lle ma nhw'n ffilimio yr enwog "Home and Away" a ma Eurig a finne di bod yn canu y blydi theme tune ers 24 awr! O'dd e'n od gweld y summer bay lifeguard station....dychmygu gweld Alf Stewart bob munud tu ol i'r dunes....

Ers i ni sgwennu diwetha ni hefyd wedi bod i weld gem final y tri nations rugby league rhwng awstralia a seland newydd. Nethon ni weld gem Cymru hefyd yn y diwedd (yn rhyw Cheers bar, diolch am yr awgrymiadau) ond trueni bo ni'n eistedd drws nesa i ddau kiwi drw gydol y gem!

Hit list wythnos yma yw i Eurig gal gem o golff a cal 8pound haircut ac i Brans ffindo swydd i dalu am y trip 'ma..

Anyway off i siopa bwyd nawr.

Closer each day....Home and away......!

Eurig a Bran x

1 comment:

Anonymous said...

Helo Brans oh a Eurig!
Waw ma hwnna yn swnio yn gret! Wastad wedi moin mynd i'r traeth yna ers yn blentyn! Megs lawr bore ma a Lows a Jeff wrth gwrs, ma hi mor brysur bydde ti byth yn credu! ma hi'n dweud good girl drwy'r amser nawr!
Hwyl Lois
xx