Monday, December 25, 2006

25 Rhagfyr - Diwrnod Dolig yn Sydney



Nadolig Llawen i bawb!

Dyma ni wedi popo mewn i'r internet cafe i ffonio adre i ddymuno Nadolig Llawen i'r teulu (diolch i'r wyrth that is Skype - bargen) a penderfynu neud y mwya o'r amser a updato'r blog ma.

So beth i ni wedi bod yn neud heddi? Ar ol agor ein anrhegion (diolch am yr hamper - just the ticket!) ethon ni am wac i draeth Balmoral le odd pawb yn dathlu gyda pic-nics top notch! Wedyn nol i'r fflat i mwynhau spread nadolig Bran cyn mynd draw i draeth Manly. All in all diwrnod neis iawn.

Hefyd wedi cwrdd lan 'da James Williams sydd draw ar ei wyliau gyda ffrindiau ac Emsyl sy'n teithio o amgylch y byd.

A ma rhaid son wrth gwrs am fuddigolaeth y mighty Scarlets yn erbyn Toulouse. Mewn gair - epic!

Odd rhaid i fi mynd i dafarn bore sul diwetha i weld 'as live' re-run o'r gem. Yr unig broblem wrth gwrs gyda'r set-up yma yw taw dim ond odd-balls a alcoholics sy'n tueddu mynd i'r dafarn am 10am ar fore sul (gobeithio bo fi heb neud naill categori eto....). Pan gerddes i mewn odd un boi yn downo peint a'r llall yn yfed baileys!!? Nath boi feddw gachu benderfynu taw fi odd ei 'best mate ever' a siarad da fi trwy gydol y gem. C'est la vie.

Ta beth os ni'n neud e trwyddo i'r final falle wnai (Eurig) ddod adre'n gynnar. Gewn weld...

Yfory - ni mynd i weld y Sydney-Hobart boat race. Rhywbeth gwahanol...

Gobeithio bod pawb wedi cal Nadolig neis a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!

Eurig a Bran

No comments: