Wednesday, January 03, 2007

4ydd Ionawr - Blwyddyn Newydd Dda




Blwyddyn Newydd Dda o Sydney!

Ffili credu bod hi'n 2007 a ma mis Hydref (dechre'r trip ma) yn teimlo yn bell iawn.

Update NYE i chi - diolch i social secretary newydd ni - James Williams - netho ni lando lan mewn rhyw penthouse apartment yn Circular Quay ar gyfer noson calan yn edrych mas ar y fireworks yn yr harbwr! A cal cwmni Emsyl a Eleri Gibbon fyd yn neud hi'n noson fawr. Champagne darlings!

Fi wedi dechre gweithio mewn rhyw gwmni marchnata - sioc i'r system yn gorfod bod rhywle am 8.55am! Eurig yn parhau i fod yn man of leisure (wel am wthnos ta beth) ac yn dechre meddwl bod e yn rhyw expert ar y criced nawr!

Rhieni Eurig yn cyrraedd fore Llun so bydd hi'n neis cal clywed hanes a gossip adre i gyd yn cynnwys gas explosion Mynyddygarreg!

Gobeithio gethoch chi noson dda NYE.....

Brans (a Eurig) xxx

4 comments:

Anonymous said...

ma Eurig yn edrych ychydig yn goch yn y llun na ydy e'n iawn?

Anonymous said...

Brans,

Mae gen i ddipyn o enwau pobl sy'n gweithio yn newyddion a materion cyfoes yn Sydney dwi wedi cael gan foi yn gwaith. Os wyt ti isio ebostio fi ar fy ngyfeiriad bbc na'i anfon nhw mlaen i ti. Gobeithio bo chi dal i fwynhau a blwyddyn newydd dda.

hwyl,
Ger

Eurig a Branwen said...

dyna un o'r 'side-effects' o gal all dayer yn yr haul!

Anonymous said...

Blwyddyn Newydd Dda i chi'h dau 'fyd - falch gwel bo chi'n edrych ar ol little sis!

Sori am y galwad ffon feddwl nos Galon - gwin coch!

Malixx