Wednesday, December 13, 2006

13eg o Rhagfyr - Sydney




Wel dyma ni - wythnos arall wedi mynd yn Sydney. Ma amser yn hedfan bois bach....

Ni newydd ddod nol o'r Blue Mountains sydd tua 2 awr tu allan i'r ddinas ac ma'r mynyddoedd wiroineddol yn edrych yn las! Rhywbeth i neud gyda'r 'euceluptos' (shwd ma sillafu hwn?) trees ond o ni ddim yn rili talu sylw i'r bychan odd yn esbonio i ni ar y pryd.

Ni hefyd wedi mynd am dro i'r Southern Head (ni'n gallu gweld e o'r fflat). Nath Brans rili enjoyo'r trip 'ma achos odd rhaid i ni baso nudist beach ar y ffordd. Odd e llawn dynon hen os chi'n gofyn fi but there we go...

Reit na ddigon wrth Mr Thomas. Shwd ma'r partion dolig i gyd yn mynd? Od iawn gweld decorations dolig yn y siope i gyd yma gyda'r tywydd yn dwym. Ddim yn teimlo fel mis Rhagfyr o gwbwl. Unrhyw gossip yn y partion ma te?

Nadolig Llawen i bawb.

Eurig a Bran x

No comments: