Saturday, January 27, 2007

28ain Ionawr - Sydney




Ma bron mis nawr ers i ni 'sgrifennu'r blog ma nawr ac ma chez Eurig a Bran wedi bod fel gwesty dros mis Ionawr.

Mwy neu lai yn syth ar ol gweud ta-ta i Eleri Gibbon nath rhieni #1(Mansel a Dianne) droi lan yn Sydney. So, tra bod Brans yn gweithio'n galed nes i weithio fel tour guide a dangos 'best bits' Sydney iddyn nhw. Wac i Bondi a Bronte, swper yn Dolyes yn Watsons Bay, a gethon ni y seafood platter mwya ni di gweld erioed yn Nicks yn Darling Harbour. O'dd e'n brofiad gweld Mansel in action yn byta'r 'seafood platter for two' gan orffen pob darn o'r lobster a'r crab.
Lan i Newcastle i weld y teulu ar y penwthnos tra bod Brans yn hedfan draw i NZ i ffilmio darn mewn ardaloedd amheus ar gyfer y Byd ar Bedwar.

Deuddydd ar ol i Mansel a Dianne hedfan adre, fe nath rhieni#2 (Sulwyn a Glenys) lando. A mwy o fwyd a gwin o'n blan ni eto!! Ma'r entertaino ma yn waith caled!
O'dd hi'n Australia Day ddydd Gwener, so ethon ni gal champagne picnic yn Bradley's Head i weld yr holl gychod ar yr harbwr. Wedyn draw i weld y fireworks yn Darling Harbour. Ma'r Ozzies yn neud lot o ffys am y diwrnod ma - trueni bod ni ddim yn dathlu ru'n fath ar Ddydd Gwyl Dewi.

Highlight arall yr wthnos o'dd mynd i'r outdoor cinema yn y Botanic Gardens i weld Catch a Fire, gyda'r olygfa ffantastic o'r sydney skyline a'r opera house fel backdrop i'r sgrin.

Update swyddi - y newyddion 'drwg' yw bod Eurig yn dechre swydd PR newydd wthnos ma so ma'r dyddiau o fod yn kept man di dod i ben!

3 comments:

Anonymous said...

O'n i'n clywed bod ti'n neud job da o fod yn wr ty. Brans yn cal swper ar y bwrdd bob nos a packed lunch i fynd i'r gwaith gyda hi bob dydd. O'n i'n impressed iawn Eurig. Ond na fe ma'r pethe da i gyd yn gorfod dod i ben rhywbryd. Llongyfarchaiadau ar y swydd newydd. Gobeithio nad yw hyn yn meddwl bod chi ddim yn dod nol!

Lows

Anonymous said...

ie Brans achos cofia dy addewid di i fi am y fideo ar Rhagfyr 22ain 2007!

Lois

Anonymous said...

Interesting to know.