Monday, August 13, 2007

13 o Awst - Cancun




Ni nawr yn Cancun. What a dump!!

Y ffordd gore i ddisgrifio´r lle yw bod e fel Blackpool on steroids. Ma fe hefyd llawn Yanks! Ond dim ond diwrnod ni ma so cyfle i ddal lan ar y blog!

Ar ol gadael y Mayan Riviera natho ni dal bws lan i ynys o´r enw Holbox er mwyn mynd nofio gyda´r Whale Sharks. Profiad anhygoel. Ma rhaid bod ni wedi gweld o leia 20 whale shark i gyd - ma da Brans hyd yn oed ´Whale Shark Wound´ le nath pectoral fin un o´r whale sharks bwrw yn erbyn pen glin hi!

Wedyn natho ni symud lawr i Chitzen Itza i weld y Mayan ruins enfawr. Ffili aros nawr i weld ffilm Mel Gibson ar y Mayans pan ni´n dod adre! (heb anghofio Return of the Jedi nath hefyd cael ei ffilmo ar safle un o´r Mayan ruins)

Dal flight yfory i LA a wedyn adre mewn jyst dros wthnos! Wedi rhoi order bwyd mewn i Glenys Ann yn barod - dim tortilla chips a salsa yn agos na refried beans (ma nhw´n byta hwn i frecwast, cino a swper!)

No comments: