Sunday, November 19, 2006

19eg o Dachwedd - Sydney


Wel ni yn Sydney o'r diwedd. Ma hi'n nos sul a ma'r ddau o ni newydd dreulio awr ar yr internet yn dal lan gyda phob peth. Ni wedi bod yn chwilio am fflat ers bron wthnos - dal heb ffeindio un yn yr ardaloedd gore - ma'n syndod cyn lleied o ddewis sy' ar gael. A di dechre ar y job hunt hefyd.

Ma Sydney yn ddinas gret. Di bod ar gwch dros yr harbwr i Manly a heddi di bod lawr i Bondi a draw ar hyd yr arfordir i Coogee. Ma'r Aussies yn gwbod shwd ma byw - bbq's bobman a cannoedd ar y traeth yn barod er bod yr haf heb ddechrau yn iawn yma eto.
Dechre ofni bydd neb yn nabod Eurig gyda tan ar ol ni ddod nol!

Eurig dal yn chwilio am dafarn sy'n dangos y rygbi cyn gem yr All Blacks dydd sadwrn nesa gan bod e wedi colli pob gem hyd yma druan! Trwbwl yw ma'r Aussies ond gyda diddordeb yn yr Ashes.

Ta beth hwyl am y tro,

Branwen a Eurigx

1 comment:

Anonymous said...

Eurig - wyt ti di trio'r Wallaby Bar?
"The official bar of the Australian Rugby Union."

Cockle Bay Wharf
SYDNEY
NSW 2000
Australia
P: (02) 9267 4118
F: (02) 9266 0444

Neu - os yn rili despret - rho waedd i'r:

Welsh Society of Sydney

For more details contact John Lloyd
02 99795584
sion@cia.com.au