Ma Carys newydd adel am adre - diwrnod yn hwyrach na'r disgwyl! Gobeithio bod y crocs wedi bod werth e Carys!
Di cal pythefnos gret - ges i (Bran) fynd ar regatta hwylio gyda gwaith. Raso ar gwch enfawr ar yr harbwr, gyda bwyd a diodydd am ddim drwr dydd! Ro'dd cant o gychod yn cymryd rhan yn y ras a di cal blas nawr ar yr hwylio ma. Ethon ni a Carys mas ar gwch hwylio fel anrheg penblwydd - so ma Eurig nawr yn keen hefyd i brynu cwch ar ol dod nol. Unrhywun arall ishe rhannu'r gost gyda ni?!
Fe fuon ni yn cerdded y bont ddydd sul diwetha - ro'n nhwn dathlu 75mlynedd ers adeiladu y bont so nethon nhw gau y ffyrdd er mwyn bod miloedd o bobl sydney yn cal cerdded drosti. Bach yn wahanol i garnifal Mynyddygarreg!
Ni nawr hefyd yn gallu argymell sawl lle da i fwyta ar ol bod mas i lefydd 'gore' sydney gyda Carys. 'Lotus' yn ffefryn gyda Carys - lle o'dd y waiter yn gofyn pa mood o'n ni mewn cyn argymell cocktail personol i ni gyd.
Contract Eurig gyda gwaith wedi cael ei ymestyn chydig so fe fyddwn ni yn aros yma yn Sydney nawr tan oelia mis Mai. Trio safio arian er mwyn bo ni'n gallu gweld mwy o'r wlad mewn steil cyn dod adre.
Gobeitho bo pawb yn cadw yn iawn.....
Brans a Eurig
No comments:
Post a Comment