Wel na beth o'dd pythefnos prysur. Yn gynta fe fuon ni yn dangos Sulwyn a Glenys rownd y ddinas. Sai di byta a yfed cyment o win ers sbel fawr!
Fuodd Eurig a finne lawr i Jervis Bay am benwthnos - i ddathlu penblwydd Eurig yn 31. Ffili credu nag oes mwy o son am Jervis Bay yn yr holl guidebooks. Traethau gwyn gwyn (Hyams beach sy a'r tywod gwyna yn y byd y ol y son??) parciau cenedlaethol gwag, a pentrefi pert. Rili neis.
O ie cyn i fi anghofio - at last fe fuon ni yn syrffo dros y penwthnos yn Manly gydag Emsyl. Odd y tonne mor fawr o'n i bron yn ffili sefyll lan yn y dwr! Gwaith galed iawn ond o leia' ni wedi rhoi shot arno fe nawr! Ar ddiwedd ein gwers odd y mor llawn 'blue-bottle jellyfish' so o ni mas o'r mor quick sharpish - er nath Emsyl druan ddim neud e mas yn digon gloi!! Nath un o'r blue-bottles stingo hi - ouch.
Pam ma mor Awstralia llawn pethe sydd moyn naill stingo, cnoi neu bwyta ni?
Ta beth, fuon ni yn stiff wedyn am ddeuddydd ar ol y syrffo. Sai'n credu bod Eurig yn hooked ond fydd rhaid i ni fynd eto i weld!
Newyddio da - ni wedi dod o hyd i dafarn weddol teidy o'r diwedd sy'n dangos y gemau rygbi rhyngwladol. Llai o alcoholics a pobl odd ta beth....trueni am y rygbi. Gwell ddim son am gem Yr Alban efalle.
O ie newyddion da arall - Ma Lisa Snowball a Ian wedi cal babi bach - Tomos Gruffydd, bachgen bach 8 pwys a hanner!! Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw.
1 comment:
bphwjlr wnx dsekd anal pics
rbhim!
kxxxl nehqbu rri asian gang bang
Post a Comment