Monday, November 06, 2006
6ed o Dachwedd - Kota Kinabalu, Malaysia
Wel dyna beth o'dd wthnos yn Borneo yn Nwyrain Malaysia. Mynd, mynd, mynd....
Ar ol noson yn Singapore, fe nethon ni hedfan yma i Kota Kinabalu.
Bore wedyn fe nethon ni ddringo Mynydd Kinabalu - un o fynyddoedd ucha Dwyrain Asia (i'r rhai sy'n lico stats - ma fe 4 gwaith mwy na'r Wyddfa tua 4800m o uchder) Ond 6 diwrnod wedyn a ni dal ffili cerdded yn iawn. Ma'n coesau ni fel jeli....
5 awr lan, aros wedyn mewn rhyw hostel, cyn dechre am 3 y bore i ddingo'r copa. 2awr a hanner wedyn a cyrraedd y top. Ond heb sylwi y bydde hi yn lot anoddach i ddringo lawr..... a wi'n credu mai ni o'dd gyda'r ola i gyrraedd pen y daith am 3 y prynhawn wedyn!!!
Dal ddim yn siwr os odd yr holl beth werth e - yn enwedig cerdded lawr yn y glaw....ond dyna beth o'dd challenge.
Bore wedyn, off a ni i Turtle island ger Sandakan. Gweld llwyth o tutles bach gwyrdd - y babi's ar y traeth, a wedyn am 9 y nos gweld un green turtle mawr yn dodwy wyau ar y traeth. Nethon ni hyd yn oed gael cyfle i ddal babi bach, cyn gweld nhw yn mynd nol i'r mor!
Diwrnod wedyn - i'r Orangutan Sanctuary a gweld y 'big boys' yno. Bach fel zoo, ond yn gret gweld 9 ohonyn nhw gyda'i gilydd.
Bore ma fe fuon ni yn Gomatong Caves. Os chi di gweld rhaglen Planet Earth ar y BBC - falle fydde chi'n cofio'r lle yma. Dyma le ma nhw'n ffeindio edible bird nests - sy'n fusnes mawr yma yn Borneo. Wel na beth o'dd strygl. Dychmygwch faint o gachu ma 2 filiwn o bats yn creu a rhoi hwnna i gyd mewn un ogof.....son am wynt! Heb son am tua 3 filiwn o cockroaches yn bwyta ar y llawr. Fi dal yn paranoid bo fi'n smelo ar ol hanner awr yn sgrwbo yn y shower.
Profiad a hanner.
Reit 50 eiliad ar ol da fi sgwennu so -
hwyl am y tro.....
Sydney - here we come.....
Eurig a Branx
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
4 comments:
Helo! Wow! Ma'r trip yn swnio'n anghygoel...Fi'n cofio'r ogof ar Planet Earth (nothing to do with recording it and watching it, when hungover, tua 1000 o weithie.) Yfe na'r un lle on nhw'n neud y 'diary' yn dangos sut nethon nhw ffilmio fe!!?!?
Wel - sdim lot o newyddion o adre a ma popeth yn teimlo mor pathetig o'i gymharu a'ch antur chi!
- Ma photos y briodas ar y we - www.flickr.com/photos/ifanmari - bach yn random ond i'ch atgoffa o Gymru fach yn yr haul (mae dal mor braf a na - onest.)
- Wi wedi bod yn neud ymchwil ar 'spa tourism' - wow ma cyfle na Brans.
- Ma da ni reunion nos Sadwrn yng Nghaernarfon. O diar.
Marix
edrych ymlaen i weld y lluniau hefyd! Chris W
What's that coming over the hill?
It's Michael Choppra, Michael Choppra!!!!!
Hia!
O mai god de chim yn gall de! Nymbar one: Pam mynd i Cave?? Nymbar tw, pam mynd i cave efo loads o pw ynddo, a nymbar thri, sgena chi'm byd gwell i neud?!!!
Chware teg - fyswn i ddim yn mentro -swnio'n frawychus iawn. Er, wedi dweud hynny, mae disgrifiad o'ch profiad yn
f'atgoffa o fynd allan i Bala ar nos sadwrn.... rhywbeth i neud efo lot o dail gwartheg ar lawr y pybs a'r smell amwn i!!!!!
Gobeithio bo chi' di cyrraedd Awstralia yn saff - edrych mlaen y glywed y diweddara - joiwch!!xxx
Post a Comment