Wednesday, August 22, 2007

22ain o Awst - San Francisco





Wel ma'r daith yn dod i ben. Ni nawr ym maes awyr San Francisco yn aros am ein flight ni nol i Lunden.

Ni wedi cal wthnos gret ma yn California - cwrdda Guzz yn LA am fwyd yn West Hollywodd, cwrdda cefdner Eurig yn LA, a wedyn lan y Big Sur i'r gogledd ac i'r wine region - Napa a Sonoma. Teimlo yn soffistigedig reit yn sipio gwin yn y vineyards gwahanol - eurig yn enwedig yn lico'r cab savs!

Ta beth ma'r daith ar ben - chapter arall yn hanes team thomas yn dechre nawr nol yng nghymru fach!
Gobeitho bod ffilms da ar y plen ma!

E + B

Monday, August 13, 2007

13 o Awst - Cancun




Ni nawr yn Cancun. What a dump!!

Y ffordd gore i ddisgrifio´r lle yw bod e fel Blackpool on steroids. Ma fe hefyd llawn Yanks! Ond dim ond diwrnod ni ma so cyfle i ddal lan ar y blog!

Ar ol gadael y Mayan Riviera natho ni dal bws lan i ynys o´r enw Holbox er mwyn mynd nofio gyda´r Whale Sharks. Profiad anhygoel. Ma rhaid bod ni wedi gweld o leia 20 whale shark i gyd - ma da Brans hyd yn oed ´Whale Shark Wound´ le nath pectoral fin un o´r whale sharks bwrw yn erbyn pen glin hi!

Wedyn natho ni symud lawr i Chitzen Itza i weld y Mayan ruins enfawr. Ffili aros nawr i weld ffilm Mel Gibson ar y Mayans pan ni´n dod adre! (heb anghofio Return of the Jedi nath hefyd cael ei ffilmo ar safle un o´r Mayan ruins)

Dal flight yfory i LA a wedyn adre mewn jyst dros wthnos! Wedi rhoi order bwyd mewn i Glenys Ann yn barod - dim tortilla chips a salsa yn agos na refried beans (ma nhw´n byta hwn i frecwast, cino a swper!)

Saturday, August 04, 2007

4ydd o Awst, Playa de Carmen, Mexico





Ola!
Ni bellach wedi cyrraedd glwad y tequila ar nachos. Ma hin anioddefol o dwym yma a newydd gal noson mewn hotel sy a aircon am y tro cynta mewn tair wthnos....lush!
Ar ol gadel Flores yn Guatemala nethon ni groesi draw i Tikal ac yna mewn i Belize. Awyrgylch hollol wahanol yn Belize o bobman arall yn Canol America. Pawb yn super relaxed ac yn gweud slow down ne go slow drwr amser.
Ethon ni divo y Blue Hole....very scary fyd yn nofio gyda oleia 10 carribean reef sharks mewn twll tywyll! Bydde Jacques Cousteau yn proud o ni.
Mlan wedyn i Balcalar yn Mexico a lan i Tulum i aros mewn cabanas ar y traeth am dridie. Heb i ni wbod ron ni yn aros mewn ardal sy,n cal turtles amser hyn o,r flwyddyn ar y traeth. Noson gynta ni yno nethon ni weld 300 o turtles bach yn cael eu gollwng i,r mor a wedyn tua dwy awr wedyn gweld mam yn dodwy wye jyst drws nesa i,r lle on i yn aros. Amazing.
Mlan i Holbox nesa i drio nofio gydar whale sharks a gobeithio ffeidnio rhywle i uploado ein llunie ni cyn i ni gyrraedd adre. Ni nol mewn tair wthnos nawr.......