Ar ol aros cwpwl o ddyddie yn Manhattan Beach yn LA dyma ni wedi neud bach o detour i´r plan gwreiddiol a hedfan lawr i Guatemala.
Tipyn o newid o LA i ddweud y lleia! Guatamala yn llawn chicken buses, dynion yn gwisgo cowboy hats a machetes a pobl Mayan yn addoli chain smoking whiskey drinking god o´r enw Maximon!
Treulio peth amser yn Antigua - tre bach bert gyda llwyth o siope bach gyda courtyards rili neis. Ni wedi cerdded lan Volcano Pacaya (sy dal yn active) gyda lava flows a teithio rownd llyn Aitilian i gal bendyth o´r hen Maximon. Hefyd wedi cal ´near death´experience mewn bws ar ein ffordd i Volcano Pacay ond ni dal yn fyw a ma pawb yn iawn (so don´t panic mam a dad!)
Ni bellach wedi cyrraedd Flores (ar ol neud trip bach mewn i Honduras i weld y Copan ruins) ac yn mynd i weld yr enwog Tikal ruins bore fory.
Wedyn ni´n symud mlaen i Belize i neud bach mwy o divo cyn symud lan i Mexico...Ni adre mis i heddi.
Llongyfarchiadau mawr i Owain a Lucy ar y newyddion da. Edrych mlaen i gwrdd a Beca Haf Thomas mewn mis!