Saturday, April 21, 2007

21 Ebrill - Sydney

Mis newydd - post newydd!

Dyma ni ar drothwy y gem fawr ar ochr arall y byd yn aros tan canol nos er mwyn gwylio gem Llanelli v Leicester yn tafarn yr Oaks sy just rownd y gornel o'r fflat yn Mosman.

Beth sy' wedi digwydd ers i ni sgrifennu diwetha'? Wel.....
Odd e'n neis cwrdd lan 'da Skelding ac Awen (ac hanner bois Bedwas) tra bod nhw mas 'ma er fi'n credu nath e pisho lawr pob dydd tra bod nhw yn Sydney.
Mae contract Eurig gyda gwaith yn dod i ben dydd mawrth nesa ac ma Brans yn bennu gyda cwmni hi ar y ddydd gwener. Wedyn ni off ar Oz trip ni i Tasmania, Melbourne, Uluru, Darwin cyn dod nol i Sydney i weld cymru yn chware Awstralia yn y 1st Test ac yna mlaen i Cairns, Whitsunday a Lord Howe! Diolch i BMT Travel wrth gwrs!
'Nath Radio Cymru cysylltu gyda Eurig tra bod e'n mynd i weld gem rugby league rhwng y Sydney Roosters a'r Brisbane Broncos i neud cyfweliad am career breaks?!? Felly wnath Eurig rhannu ei holl ddoethineb ar y pwnc gyda Cymru fach o Aussie Stadium!
Rhywsut ni'n dal i lwyddo codi cyn gwaith er mwyn mynd am dro ar draeth Balmoral cyn gwaith (ni hyd yn oed wedi mynd am ambell i run ar ol gweld y 70 year olds lleol yn mynd am early morning dips nhw!)
Ni hefyd yn gweud hwyl fawr i Helen a Fiona penwythnos yma gan bod nhw'n gadael Sydney i neud bach mwy o deithio. Falle bod hwn yn arwydd bod e'n amser i ni symud mlaen hefyd....
Dyna ddigon am nawr...newn ni sgrifennu nesa o Melbourne! How exciting!
(o ie, ni hefyd wedi bod am day trip i'r Blue Mountais - nath e pisio lawr - a Palm Beach. Neis iawn.)
Cariad

E+Bxx