Sunday, March 25, 2007

25 Mawrth - Sydney








Ma Carys newydd adel am adre - diwrnod yn hwyrach na'r disgwyl! Gobeithio bod y crocs wedi bod werth e Carys!

Di cal pythefnos gret - ges i (Bran) fynd ar regatta hwylio gyda gwaith. Raso ar gwch enfawr ar yr harbwr, gyda bwyd a diodydd am ddim drwr dydd! Ro'dd cant o gychod yn cymryd rhan yn y ras a di cal blas nawr ar yr hwylio ma. Ethon ni a Carys mas ar gwch hwylio fel anrheg penblwydd - so ma Eurig nawr yn keen hefyd i brynu cwch ar ol dod nol. Unrhywun arall ishe rhannu'r gost gyda ni?!
Fe fuon ni yn cerdded y bont ddydd sul diwetha - ro'n nhwn dathlu 75mlynedd ers adeiladu y bont so nethon nhw gau y ffyrdd er mwyn bod miloedd o bobl sydney yn cal cerdded drosti. Bach yn wahanol i garnifal Mynyddygarreg!

Ni nawr hefyd yn gallu argymell sawl lle da i fwyta ar ol bod mas i lefydd 'gore' sydney gyda Carys. 'Lotus' yn ffefryn gyda Carys - lle o'dd y waiter yn gofyn pa mood o'n ni mewn cyn argymell cocktail personol i ni gyd.
Contract Eurig gyda gwaith wedi cael ei ymestyn chydig so fe fyddwn ni yn aros yma yn Sydney nawr tan oelia mis Mai. Trio safio arian er mwyn bo ni'n gallu gweld mwy o'r wlad mewn steil cyn dod adre.

Gobeitho bo pawb yn cadw yn iawn.....
Brans a Eurig

Tuesday, March 13, 2007

Mawrth 14 - Sydney




Ma amser yn hedfan bois bach - ffili credu bod dros mis ers i ni 'sgrifennu yn y blog ma diwetha'.

So beth sydd wedi digwydd mewn mis? Wel, ma Carys wedi bod gyda ni ers dydd iau ar ol stopo yn Kuala Lumpar i weld Llechid a Sara. So ni wedi bod lawr i Bondi beach i neud yr hen ffefryn -wac ar hyd yr arfordir i Bronte a cal drink yn Icebergs! Mas heno i Longrain i gal bwyd a cocktails.

Ac ma Emsyl wedi symud mlaen o Sydney erbyn nawr ac ar hyn o bryd gyda Rhodri rhywle yn deepest darkest Seland Newydd. Bydd rhaid trefnu cwrdd lan yn y Mochyn Du eto pan ni'n dod nol!

Beth arall sydd wedi digwydd? Ma'r QE2 a'r Queen Mary 2 wedi dod mewn i harbwr Sydney am gwpwl o ddyddie - nath miloedd o bobl ddod allan i weld nhw (neu'r tan gwyllt efalle? Ma nhw'n joio gwd firework display yn Sydney!)

Ma'r Mardi Gras wedi mynd a dod - lot o fois tew hoyw yn gwisgo gormod o ledr yn danso i Kylie os chi'n gofyn fi...

Fel pawb arall ni wedi bod yn dilyn y rygbi a ffili credu beth ni'n gweld! Least said the better efalle. Dihuno dydd sul yma i weld gem Lloegr yn fyw. Cawn weld....

Beth arall? O ie atho ni i weld Taronga Zoo sydd gyda olygfa amazing o Sydney ac ond 10 muned o fflat ni.

Brans a fi yn gweithio'n galed ar hyn o bryd - hen bryd hefyd yn ol rhai.....

Ac wrth gwrs ni ffili bennu'r blog yma heb son bod Eleri o'r diwedd wedi rhoi genedigaeth i Gruffudd a'r newyddion mawreddog arall yw bod Meleri a Loz yn disgwyl! Da iawn chi - tymor o waith da!

Hwyl am nawr,
Eurig, Bran a Carys