Sunday, November 19, 2006

19eg o Dachwedd - Sydney


Wel ni yn Sydney o'r diwedd. Ma hi'n nos sul a ma'r ddau o ni newydd dreulio awr ar yr internet yn dal lan gyda phob peth. Ni wedi bod yn chwilio am fflat ers bron wthnos - dal heb ffeindio un yn yr ardaloedd gore - ma'n syndod cyn lleied o ddewis sy' ar gael. A di dechre ar y job hunt hefyd.

Ma Sydney yn ddinas gret. Di bod ar gwch dros yr harbwr i Manly a heddi di bod lawr i Bondi a draw ar hyd yr arfordir i Coogee. Ma'r Aussies yn gwbod shwd ma byw - bbq's bobman a cannoedd ar y traeth yn barod er bod yr haf heb ddechrau yn iawn yma eto.
Dechre ofni bydd neb yn nabod Eurig gyda tan ar ol ni ddod nol!

Eurig dal yn chwilio am dafarn sy'n dangos y rygbi cyn gem yr All Blacks dydd sadwrn nesa gan bod e wedi colli pob gem hyd yma druan! Trwbwl yw ma'r Aussies ond gyda diddordeb yn yr Ashes.

Ta beth hwyl am y tro,

Branwen a Eurigx

Monday, November 06, 2006

6ed o Dachwedd - Kota Kinabalu, Malaysia



Wel dyna beth o'dd wthnos yn Borneo yn Nwyrain Malaysia. Mynd, mynd, mynd....
Ar ol noson yn Singapore, fe nethon ni hedfan yma i Kota Kinabalu.
Bore wedyn fe nethon ni ddringo Mynydd Kinabalu - un o fynyddoedd ucha Dwyrain Asia (i'r rhai sy'n lico stats - ma fe 4 gwaith mwy na'r Wyddfa tua 4800m o uchder) Ond 6 diwrnod wedyn a ni dal ffili cerdded yn iawn. Ma'n coesau ni fel jeli....
5 awr lan, aros wedyn mewn rhyw hostel, cyn dechre am 3 y bore i ddingo'r copa. 2awr a hanner wedyn a cyrraedd y top. Ond heb sylwi y bydde hi yn lot anoddach i ddringo lawr..... a wi'n credu mai ni o'dd gyda'r ola i gyrraedd pen y daith am 3 y prynhawn wedyn!!!
Dal ddim yn siwr os odd yr holl beth werth e - yn enwedig cerdded lawr yn y glaw....ond dyna beth o'dd challenge.
Bore wedyn, off a ni i Turtle island ger Sandakan. Gweld llwyth o tutles bach gwyrdd - y babi's ar y traeth, a wedyn am 9 y nos gweld un green turtle mawr yn dodwy wyau ar y traeth. Nethon ni hyd yn oed gael cyfle i ddal babi bach, cyn gweld nhw yn mynd nol i'r mor!

Diwrnod wedyn - i'r Orangutan Sanctuary a gweld y 'big boys' yno. Bach fel zoo, ond yn gret gweld 9 ohonyn nhw gyda'i gilydd.

Bore ma fe fuon ni yn Gomatong Caves. Os chi di gweld rhaglen Planet Earth ar y BBC - falle fydde chi'n cofio'r lle yma. Dyma le ma nhw'n ffeindio edible bird nests - sy'n fusnes mawr yma yn Borneo. Wel na beth o'dd strygl. Dychmygwch faint o gachu ma 2 filiwn o bats yn creu a rhoi hwnna i gyd mewn un ogof.....son am wynt! Heb son am tua 3 filiwn o cockroaches yn bwyta ar y llawr. Fi dal yn paranoid bo fi'n smelo ar ol hanner awr yn sgrwbo yn y shower.
Profiad a hanner.

Reit 50 eiliad ar ol da fi sgwennu so -
hwyl am y tro.....

Sydney - here we come.....


Eurig a Branx