Monday, September 18, 2006

3ydd o Hydref 2006 - Cyrraedd Hong Kong


Gadael Cymru fach ar ein taith, ac yn gyntaf i Hong Kong!

Wel na beth yw dinas hectic! Di bod yn aros yn Kowloon, sef y darn ar y mainland sy'n gwynebu ynys Hong Kong. Ma'r skyline o'r ynys yn impressive iawn.

Branwen yn mynnu cael her "Sex in the City moment" a mynd am bar crawl i'r llefydd druta, trendy ac yn llawn pobl gyda bagie Prada a dillad Armani. Teimlo fel tramp yn mynd mewn drw'r drws. Dim botel o Magners in sight!

Bar Aqua o'dd un - bar ar dop adeilad One peking. Lle bwyd yn llawn gwydr gyda bar glamorous iawn yn edrych mas dros skyline ynys Hong Kong - i gyd ar lawr rhif 30 o'r adeilad.

Ond Eurig yn cal ei ffordd yn cal noson i weld y raso ceffylau yn yr Happy Valley Racecourse (tybed os ma na unrhyw gysylltiad i gyn Gefnwr byd enwog Samoa?) . Dros 50 mil o locals Hong Kong yn mynd ar nos Fercher i'r rasus i fetio. Y system mor gymhleth fel ar ol astudio 5 ras ro'n ni dal yn rhy confused i roi bet ar unrhyw geffyl!

Top 5 Hong Kong

1. Y skyline o Kowloon
2. Big Buddha
3. Y wac ar ben Y Peak
4. Star Ferry (20 ceiniog y trip - bargen!)
5. Rasus Happy Valley
(heb weld y stadiwm rygbi so methu gweud unrhywbeth - esgus deche da fi nawr i ddod nol am y HK 7s)

Dyna ddigon o BMT travel yn rantio i chi. Ymlaen nawr i Hanoi. Yn anffodus ma'r hwylie heb fod yn dda hyd yma achos bod y ddau ohonon ni yn llawn anwyd - diolch i'r rhai nath basio y germs nos sadwrn cyn i ni fynd!
So gobeithio fydd spices Vietnam yn cal gwared ar y peswch.
Hwyl am y tro
E + B xxx